AlunHUGHESHunodd yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei ferch, Gorffennaf 23ain, 2025 yn 89 mlwydd oed. Priod cariadus a ffyddlon Ann, Tad gofalus a chefnogol Elana a Thad yn nghyfraith Derfel. Taid arbennig a balch Elan ac Alaw. Brawd gofalgar Gwyneth a'r diweddar Megan a Gwilym. Yn ffrind i lawer ac yn barod ei gymwynas, bydd colled enfawr ar ei ôl.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Ifan, Llannerch-y-medd, Awst 14eg am 11.30yb. Rhoddir i orffwys ym Mynwent Rhandir Hedd, Llanfairpwll.
Blodau teulu'n unig os gwelwch yn dda ond derbynnir rhoddion yn garedig er côf am Alun, tuag at Ambiwlans Awyr Cymru (Sieciau yn daladwy i M. Williams a G. Roberts Cyfrif Rhoddion) drwy law Gwenan Roberts, W.O. a M. Williams, Rose & Thistle, Llanedwen, Llanfairpwll, LL61 6PX (01248 430312).
Keep me informed of updates