SarahWILLIAMSWILLIAMS - SARAH. Ebrill 6ed 2015. Yn dawel ar ol gwaeledd byr yng nghwmni ei theulu yng Nghartref Plas Ogwen ar drothwy ei 90. Gynt o Bro Derfel, Tregarth a Siop Bapur Newydd, Stryd Fawr Bethesda. Priod cariadus y diweddar William Charles. Mam annwyl Ron a'i wraig Ceris, Nain ofalus Martin a Sara. Chwaer a Chwaer yng nghyfraith hoff Marian ac Alun, modryb hoffus. Ffrind ffyddlon i lawer, bydd colled enfawr a'r ei hol. Angladd breifat i'r teulu yn unig yn ol ei dymuniad. Blodau'r teulu yn unig, ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gartref Plas Ogwen am ei gofal trylwyr a charedig o Sarah yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy law Stephen Jones, Trefnwr Angladdau, Pen-y-bryn, Bethesda 01248 600455.
Keep me informed of updates