BessieJONESDymuna Meirwen, Mel a theulu'r diweddar Bessie Jones, Llys Arthur, Carmel, ddiolch yn fawr iawn i bawb am y llu cardiau, galwadau ffôn, blodau a rhoddion a dderbyniwyd yn dilyn marwolaeth eu mam. Diolch i staff Ward Padarn, Ysbyty Eryri, staff Plas Gwilym, Pen-y-groes, staff Cerrig yr Afon, Y Felinheli, ac i Dr. Aled a phawb ym Meddygfa Felinheli am eu gofal. Diolch i'r cludwyr - Alan, Guy, Aled a Dafydd, ac i Letta a Mary am eu teyrnged ddydd yr angladd. Hefyd diolch i'r Parch. Ddr. Dyfed Wyn Roberts am ei wasanaeth teimladwy, i Mrs. Christine Edwards, yr organyddes, ac i Enid a'r staff yng Nghlwb Golff Caernarfon am ddarparu'r lluniaeth. Yn olaf diolch i Iolo a phawb yn Roberts & Owen am eu gwasanaeth proffesiynol. Diolch yn fawr.
Keep me informed of updates