Dilys MyfanwyWILLIAMS(Anti Dil Siop 'Sgidie) Bryn Coch, Y Ddwyryd, Corwen. Fe hunodd yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar Fawrth 13eg 2023 yn 94 mlwydd oed. Priod y diweddar Arthur, modryb a hen fodryb hwyliog ac arbennig Gwenda, Jac, Ellyw, Elgan, Lois a Deio; Karen ac Ian; David, Paula, Cillian, Rhys a Dylan; Glyn; Ceris, Lee, Tesni ac Osian; Dylan, Catrin ac Aled a'r diweddar Shaun. Chwaer yng nghyfraith hoffus Eluned, Meurig a Megan, Gerallt ac Olwen, Gareth a Lol a'u teuluoedd. Bydd colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei bywyd yng nghapel Seion, Corwen ar y 1af o Ebrill am 2 o'r gloch ac yna fe'i rhoddir i orffwys ym mynwent Eglwys Sant Iago, Llawrybetws. Bydd lluniaeth i ddilyn ym Mhlas Isaf, Corwen. Blodau gan y teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Meddygfa Corwen ac Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau a chyfraniadau drwy law Peredur Roberts Cyf., Bridge Street, Corwen, LL21 0AB 01490 413452/07884025520
Keep me informed of updates