David RichardWILLIAMSGorffennaf 5, 2022 Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd Bangor o 8 Stâd Eryri, Bethel yn 75 mlwydd oed. Gŵr annwyl Olwen; Tad a thad-yng-nghyfraith cariadus ac addfwyn Wena a Huw, Llinos a Gari, John Bryn ac Emma; Taid hwyliog Tomos, Luned, Daniel, Mathew, Gethin, Steffan, James a Luke; brawd bach hoffus i Jack, Tom, Mattie, Bob, Edwin a'r diweddar Owie; brawd-yng-nghyfraith ac ewythr hoff. Colled enfawr i'w deulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Gwener, Gorffennaf 15, 2022. Gwasanaeth yng Nghapel Saron, Bethel am 11.30 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Newydd Pentir. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at elusennau lleol. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates