EirianwenWILLIAMSWILLIAMS - EIRIANWEN, 9fed o Ebrill 2021. O Parc Isaf, Tyn Lôn, Caergybi, hunodd yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yn 66 mlwydd oed. Priod annwyl ac amhrisiadwy Gwilym, mam gariadus a balch Lois a Non. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau. Yn dilyn canllawiau COVID, mi fydd gwasanaeth breifat yn cael ei gynnal i'r teulu yn unig yng Nghapel Moreia, Llangefni, Dydd Sadwrn, 17eg o Ebrill am 12 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Belan, Tyn Lôn, Llynfaes. Bydd croeso i bawb dalu teyrnged gerllaw y fynwent wrth ddilyn pellter cymdeithasol. Mi fydd yr orymdaith angladd yn gadael Parc Isaf am 11.30 o'r gloch gan fynd i Langwyllog, heibio Capel Gosen am gyfeiriad Rhosmeirch, troi lawr am lôn Bacsia i groesffordd lôn Benllech ac yna troi i'r dde ac i fewn i Llangefni i'r Capel. Yn dilyn y gwasanaeth, mi fydd y daith yn mynd drwy stryd Llangefni a Bodffordd am y fynwent. Pe dymunech dalu'ch teyrnged olaf, gofynnwn i bobl sefyll i wylio yr orymdaith gan gadw pellter cymdeithasol. Dim blodau yn ôl ei dymuniad. Ni ofynnir yn benodol am gyfraniadau ond os dymunir croeso i chi gyfrannu yn bersonol at eich hoff elusen er cof am Eirianwen. Ymholiadau drwy law yr ymgymerwyr R & A Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7EF. Ffôn: 01248 723 497.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Eirianwen