EnidWILLIAMSWILLIAMS - ENID, 19 Gorffennaf, 2019. Yn sydyn yn Ysbyty Eryri, ac o 7 Muriau Park, Caernarfon yn 86 mlwydd oed. Priod y diweddar Hugh, a llys-fam Leora a Gwynfor. Chwaer annwyl Catherine, Iona a'r diweddar Eric, a modryb garedig Eryl, Alwynne, Glenys, Martin a Marian. Angladd brynhawn Iau, 1 Awst, 2019. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Feddygfa Newydd Waunfawr. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates