IorwerthWILLIAMSWILLIAMS - IORWERTH, Mehefin 6, 2019. Yn frawychus o sydyn yn ei gartref, Cartref Melys, Llanrug, yn 87 mlwydd oed. Priod annwyl y ddiweddar Alwena (Ali), tad arbennig Anwen a'i phriod Alwyn; taid amhrisiadwy Bethan Fôn a Graham, Ianto Fôn a Bethan Grês; brawd y ddiweddar Eurwen a ffrind triw i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Mawrth, Mehefin 18, 2019 am 11.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir er cof tuag at Meddygfa Waunfawr ac Ambiwlans Awyr. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Iorwerth