BarryTHOMASDymuna Eirian, Nia, Arwel, Caryl a'u teuluoedd ddiolch o waelod calon am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn dilyn eu profedigaeth sydyn o golli Barry. Diolch am bob cardyn, ymweliad a'r galwadau ffôn a fu o gysur iddynt a diolch yn arbennig am y rhoddion hael er cof am Barry sydd i'w rannu rhwng Meddygfa Waunfawr ac Apêl Ambiwlans Awyr Cymru. Hefyd diolch i Roberts & Owen a'r Parchedig Iwan Llewelyn Jones am eu gwasanaeth ddydd yr angladd ac am eu gofal ohonom dros y cyfnod, ac i Esmor, Eilian, Richard ac Aneurin am eu teyrngedau arbennig. Yn olaf diolch i'r organyddes Mrs Christine Edwards, i Gapel Glanrhyd, ac i Glwb Golff Caernarfon am y lluniaeth.
Keep me informed of updates