BasilTHOMAS (YH)Dymuna Lydia, Rhiwlas, Glan Beuno, Bontnewydd, ddiolch o galon i deulu, cymdogion a ffrindiau am yr holl alwadau ffôn, cardiau ac ymweliadau a dderbynniodd yn dilyn ei phrofedigaeth o golli Basil. Diolch hefyd am y rhoddion hael tuag at Nyrsys Canolfan Iechyd Caernarfon. Diolch i'r Canon Idris Thomas am ei wasanaeth teimladwy ddydd yr angladd, i Mr Wyn Lloyd Jones am y deyrnged i Basil, ac i'r organyddes Mrs Eirwen Darwood. Diolch yn ogystal i'r ymgymerwyr Roberts ac Owen am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates