Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

Acknowledgement for Anwen ROBERTS

Caernarfon | Published in: Caernarfon Herald.

Change notice background image
AnwenROBERTSThomas Meirion Hughes Roedd y gynulleidfa yng Nghapel Seilo, Caernarfon, ar Awst 4ydd yn adlewyrchu parch y gymuned tuag at Meirion a'i gyfraniad i fywyd y dref a'i etifeddiaeth drwy gofnodi hanes Caernarfon. Gwasanaethwyd yr angladd gan Y Parchedigion Dafydd Hughes, Harri Parri, Gwenda Richards a Reuben Roberts. Cafwyd teyrnged gan ei gor -nith, Anwen a'r cludwyr oedd Rhodri, Joshua Taylor, Gareth ac Adam Edwards, Mark a Lloyd Williams. Rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Llanbeblig. Bu farw yn dawel yn ei gartref, 34 Stryd Garnons ar 25ain o Orffennaf ag yntau yn 89 mlwydd oed. Yn unig fab i Ellis ac Annie Hughes, Stryd Fawr, Caernarfon, bu'n briod ?'r ddiweddar Meiriona. Roedd yn ewythr i Joyce ac Anwen, yn gefnder i Norah a Carys. Ffrind ffyddlon i Menai a'r teulu, i Gareth ac Adam, Christine a'r teulu. Dymuna'r teulu ddiolch i Dr Eilir Jones a Hosbis yn y cartref am eu gofal yn ei ddyddiau olaf. Rhoddwyd ?400,yr arian er cof amdano i Hosbis yn y Cartref a Hafan Iechyd. Roedd Meirion yn awdur nifer o lyfrau ag erthyglau di-ri am hanes leol, gyda cholofn gyson ym Mhapur Dre. Roedd wedi cofnodi yn eang hanes Caernarfon ? oedd mor bwysig iddo. Meistriolodd y gynghanedd a cafodd fwynhad yn ysgrifennu cwpledi ac englynion. Fe enillodd gadeiriau mewn Eisteddfodau lleol a bu'n aelod o'r Orsedd.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Anwen
729 visitors
|
Published: 30/08/2017
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
Next
Carol BREWER