LauraROBERTSROBERTS - LAURA. Dymuna Griffith John, Gwilym Wyn, Judith, Jane, Robert a'r teulu ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gefnogaeth a charedigrwydd a gafodd y teulu yn ystod gwaeledd Laura Roberts (Ty Lon, Ceidio) a'r cydymdeimlad yn eu profedigaeth. Ein diolch i Nyrsus arbennig Bryn Beryl am eu gofal tyner ac i Feddygfa Nefyn a'i staff. Diolch i Parch. Olwen Williams am ei gwasanaeth parchus ar ddiwrnod yr angladd, i Mrs Jessie Williams wrth yr organ ac i Mrs Katie Pritchard am ei chefnogaeth ac am gael Y nerth i dalu teyrnged o'r galon am ei ffrind "Lowri". Diolch hefyd am gyfraniadau caredig er cof amdani i Gronfa Bryn Beryl. Am drefniadau trylwyr a theimladwy diolch i Mr T G Williams, Bryn Iddon, Morfa Nefyn a Mr E W Pritchard, Morfa Nefyn.
Keep me informed of updates