AnnROBERTSROBERTS - Dymuna Ann, merch y diweddar BOB ROBERTS, Ty'n-y-Graig, Bodedern, a'r teulu gydnabod eu diolch diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Gwerthfawrogir yr holl ymweliadau, cardiau, llythyrau a galwadau ffon a dderbyniwyd. Diolch yn arbennig i Ddoctoriaid Meddygfa Llanerchymedd a Doctoriaid a Nyrsus Ward Moelwyn, Ysbyty Gwynedd am y gofal tyner a gafodd yn ystod ei waeledd. Diolch i'r Parchedigion Elfryn Jones a John Rice Rowlands a Mr Carwyn Siddall am eu gwasanaeth ddydd yr angladd; i Mrs. Mai Wiliam am gyfeilio ac i'r Ymgymerwr Mr. Gareth Owen, Y Fali am ei drefniadau trylwyr. Yn ddiolchgar iawn derbyniwyd £2,100 o roddion, er cof am Bob, tuag at Feddygfa Llanerchymedd ac Ymchwil Cancr, Ysbyty Gwynedd.
Keep me informed of updates