Goronwy WynRICHARDSRICHARDS - GORONWY WYN Cwr-y-Waun, Rhyduchaf, Y Bala. Dymuna Bet, Bethan, Rhys a Llio a theulu'r diweddar Goronwy Wyn Richards ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd y maent wedi'i dderbyn ers colli priod addfwyn a thad a thaid amhrisiadwy ddechrau Medi. Bydd y rhoddion hael o £1,325.00 a dderbyniwyd er cof am Gron yn cael eu rhannu rhwng Cronfa Offer Meddygol y Bala ac Uned Hematoleg Ysbyty Maelor. Diolch hefyd i Eirian Owen ac i'r Parchedigion Hywel Edwards, Carwyn Siddall a Cath Williams am eu cyfraniadau at y gwasanaeth, ac i Peredur Roberts Cyf. am ei ofal urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Goronwy