Ruth MererydREEVESYn dawel ar ddydd Mawrth Rhagfyr 8fed 2020 yng ngofal Cartref, Henllan hunodd Mereryd, Gellideg, Talgarreg gynt yn 91 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Dewi, Mam ofalus Ynyr, Mannon, Cenfil a Deilwen, Mam yng nghyfraith barchus Iona a Siôn, Mamgu gariadus Nerys a'i phriod Nick, Enfys a'i phartner Mathew, a Morgan a hen famgu falch Martha, Ioan ac Elen. Gwasanaeth angladdol hollol breifat ym mynwent Capel Pisgah, Talgarreg ddydd Gwener Rhagfyr 18fed 2020 am 11 o'r gloch. I'r rhai sydd eisiau talu'r gymwynas olaf bydd yr orymdaith yn ymadael â Chapel Gorffwys Cenfil Reeves a'i Fab am 10 y.b. ac yn teithio heibio Gellideg ac ymlaen i Cartref, Henllan. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Cartref, Henllan trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates