EnidPRITCHARDPRITCHARD - ENID. Mehefin 6, 2015. Yn dawel, yng nghwmni ei theulu, gartref yn Rhiwen, Porthaethwy yn 94 mlwydd oed. Gwraig gariadus y diweddar Owen Emyr (Now, Cae Corniog); mam a ffrind amhrisiadwy Einir a'i phriod Gwyn; nain falch ac arbennig Emyr a'i gymar Becky; chwaer annwyl Eileen. Colled enfawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Iau, Mehefin 11, 2015 am 3.00 o'r gloch y prynhawn. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Feddygfa Star a Muscular Dystrophy. Ymholiadau pellach i Dylan a Meinir Griffith, Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates