Skip to Add Tribute Skip to Content
Create a notice
What type of customer are you?
Why create a notice?
Announce the passing
Publish funeral arrangements
Remember a loved one gone before
Raise charitable donations
Share a loved one’s notice
Add unlimited tributes to this everlasting notice
Buy Keepsake
Print
Save

Acknowledgement for Annie PARRY

Llanfair Pwllgwyngyll | Published in: Daily Post.

(1) Photos & Videos View all
Change notice background image
AnniePARRYHoffai Gareth, Laura a'r teulu fawr ddiolch i bawb a ddangosodd ei caredigrwydd a chydymdeimlad ar ol colled Mam, Nain a Hen Nain. Diolch hefyd i'r gweinidog y Parchedig Alun Morton Thomas a'r organydd Mr. Elwyn Hughes, a Gwenan o ymgymerwyr W.O. & M. Williams. A diolch i bawb yn Plas Garnedd. Casglwyd £421 at elusen Awyr Las. Gareth, Laura and family wish to thank all who showed their kindness and sympathy after the loss of Mam, Grandmother and Great Grandmother. Thanks also to the Minister Mr. Alun Morton Thomas and the organist Mr. Elwyn Hughes and Gwenan from the undertakers W.O. & M. Williams. And thanks to all at Plas Garnedd. £421 was collected towards the charity Awyr Las.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Annie
1515 visitors
|
Published: 22/09/2022
1 Potentially related notice
Want to celebrate a loved one's life?
Create your own ever lasting tribute today
9 Tributes added for Annie
Report a tribute
Add your own tribute
Add Tribute
Fel y dywedodd Derec yn garedig, yr oedd ganddi gariad ac angerdd mor selog at y capel, at ei chymuned, at ei theulu. Dyma'r gwerthoedd oedd yn agos at ei chalon. Yma, yn yr union gapel hwn y byddai hi'n canu'r organ y rhan fwyaf o'r Suliau

Nid yn unig yr oedd ei chalon yn gryf, ond goroesodd ganser y coluddyn pan oedd yn 81 oed gan gamu o'r ysbyty dim ond ychydig ddyddiau ar ôl y llawdriniaeth.

Ar ol ei hiechyd fynd i lawr yn 2017, cafodd ei lleoli ym Mhlas Penlan, Llangefni cyn cael lle ym Mhlas Garnedd yn 2018 lle treuliodd weddill ei blynyddoedd.

Dwi wedi cadw llawer o’i llythyrau – mae’n gyfle perffaith i mi gadw fy sgwennu cymraeg i fynd. Oherwydd Nain a fy Nhad y byddaf yn parhau i gadw’r Gymraeg yn agos at fy nghalon.

Diwedd cyfnod, diwedd cenhedlaeth, Diolch am bopeth, Nain

Geiriau gan Laura Pardoe xxx
Laura
23/03/2023
Comment
Roeddwn i eisiau rhannu ychydig o eiriau am fy Nain. Ychydig am ei hanes, a'r pethau a garai hi

Ganed hi yn 1926, bu'n byw ym Maenafon, yna Sarn Faban ac yna Bryn Cyrff.

Priododd yn 1953 â Taid fi, Gwylfa a symud i fyw i Benllech lle ganwyd fy’n nhad yn 1955.

Yn y chwedegau cynnar symud yn ôl i Llanfairpwll, yn gyntaf yn byw yn Fron Deg ac yna yn 1965 symud i Annwylfa.

Yma y prynodd ei phiano. Eisteddais yn aml wrth ei hymyl wrth ymarfer arno. Gwraig gyda llawer o ddoniau cudd a hynod o dalentog.

Roedd hi’n enaid caredig a gofalgar iawn…roedd hi hefyd yn feithringar iawn, ac roedd hyn i’w weld yn ei hangerdd am arddio, ar ôl dysgu gan ei thad. Roedd hi’n adnabod holl enwau’r blodau yn yr ardd ac roedd hi’n teimlo’n falch ar ôl diwrnod caled o waith a dreuliwyd yn ei ardd. Roedd planhigion mafon a gwsberis wedi cael eu trawsblannu o Fryn Cyrff i ardd gefn fawr Annwylfa. Roedd ei threifflau mafon cartref a'i phasteiod gwsberis yn bleser i'w bwyta - yn ffres o'r un ardd annwyl.

Roedd coginio hefyd yn angerdd, roedd cacennau cartref a bara brith, cacennau nadolig, sgons, cacennau roc, pasteiod ffrwythau, a taffi triog yn aml yn cael eu coginio a’u cynnig i ymwelwyr.

Yr oedd ganddi gariad arall, a hwn at weu, ac arferai weu amryw ddilledyn i deulu, cyfeillion a chymydogion. Mewn gwirionedd, mae unrhyw un a oedd newydd gael babi newydd-anedig gerllaw, yn meddwl y byddai siwmper wedi'i gwau ar y ffordd. Pan ymwelais â Nain, roedd hi yn brysur gwneud y croesair yn y Daily Post, ac ambeth waith yn gofyn i fi ei orfen gyda hi.
Laura
23/03/2023
Comment
Her health did deteriorate in 2017 and she was placed in Plas Penlan, Llangefni before getting a place at Plas Garnedd in 2018 where she spent the rest of her years.

I have kept many of her letters - it is the perfect chance for me to keep my welsh writing going… it is because of her and my Dad that I will continue to keep the welsh language close to my heart.

End of an era, end of a generation

Thank you for everything, Nain

By Laura Pardoe, her loving grand daughter
Laura
23/03/2023
Comment
I just wanted to share a few words about my Nain. A bit about her history, and the things that she loved.

She was born in 1926, lived in Maenafon, then, Sarn Faban and then Bryn Cyrff.

She married in 1953 to my Taid, Gwylfa and moved to live in Benllech where my Dad was born in 1955.


In the early sixties they moved back to Llanfairpwll, firstly living in Fron Deg then in 1965 they moved to Annwylfa.

It was here where she bought her piano. I often sat besides her as she practiced on it.. A humble lady, with many hidden, extraordinary talents.

She was a very kind, caring & attentive soul…she was also very nurturing, and this could be seen in her passion for gardening after learning from her father. She knew all the names of the flowers in the garden and she felt proud after a hard day's work spent in her garden. Raspberry and gooseberry plants had been transplanted from Bryn Cyrff to Annwylfa’s spacious rear garden. Her homemade raspberry trifles and gooseberry pies were a delight to eat - fresh from the same, beloved garden.

Baking was also a passion, Homemade cakes & bara briths, christmas cakes, scones, rock cakes, fruit pies and treacle toffee were often cooked and offered to visitors

She had another love, and this was for knitting, and she used to knit various garments for family, friends and neighbors. In fact, anyone who had just had a newborn baby nearby, rest assured there’d be a knitted jumper on the way. When I visited her, she was busy finishing off her crosswords in the daily post. A sharp mind - rarely did she ask for assistance with finishing it.

As Derec kindly said, my Nain had such an avid love and passion for the chapel, for her community., for her family. These were the values that were close to her heart. It was here, in this very church where she played the organ most Sundays

Not only was her heart strong, but she survived bowel cancer when she was 81. Stepping out of hospital only a few days after the operation.
Laura Parry
23/03/2023
Comment
Bu Annie yn ysgrifennydd cyhoeddiadau am flynnyddoedd, ac fe wnaeth y gwaith hynny yn dawel ac gyda urddas, yn syth ar ol y bregeth mi fyddai Annie yn aml iawn yn dod ar llyfr bach allan i drefnu gyda’r Gweinidog / pregethwr iddynt ddod yn ol yma i bregethu a hynny weithia` dair blynnedd i’r dyfodol.

Pan wnaeth ei iechyd ddiriwio a hithau yn methu a mynychu’r oedfa fe `roedd hyn yn golled enfawr i ni yma yn Ebeneser, ond yn sicr fe `roedd Annie yn teimlo y golled hefyd, fe ddywedodd wrthyf lawer gwaith dros y cyfnod pan y byddwn yn galw am sgwrs bach ( cyn y Covid ) yn Mhlas Garnedd fel yr oedd hi yn sicr colli mynychu y gwasanaetha` yn y “Capel bach”, yn colli y gymdeithas a chwmni yr aeloda` - fe `roedd am wybod faint oedd yno erbyn hyn - a pwy fyddai wedi bod yn pregethu acw.
Yn wir fe `roedd na ddau beth yn bwysig yn mywyd Gwylfa ac Annie sef eu teulu ac hefyd teulu Ebeneser,
Yn bendant fe `roedd Gwylfa a Annie wedi ymroi yn gyflawn i wasanaethu Iesu Grist yn ystod ei bywyd ,a hynny yma yn y Capel bach yn mhentre ucha` Llanfairpwll.

Diolch o’r galon am ymroddiad y ddau yma dros y blynnyddoedd ar ran Swyddogion aelodau, a chyfeillion Ebeneser, fel y gwelsoch ar y lechen uwchben y drws ffrynt mae enw y Capel sef - Ebeneser ( A ) fe fydd yr (A) yn bendant yn ein atgoffa am Annie.

Siwrna` saff i’r hir gartref Annie bach, a diolch am gael eich adnabod.


Derec Owen ar ran “teulu” Ebeneser.
Laura
23/03/2023
Comment
Y tro cyntaf i ni fel teulu i gyfarfod a Gwylfa ac Annie Parry oedd yn y saithdegau, yr adeg hynny, fel teulu, i Eglwys y Santes Fair yr oeddem yn mynd, ond am ryw reswm fe benderfynnwyd dileu yr Ysgol Sul yno ac felly gan ein bod yn byw bron iawn drws nesa i Ebeneser fe wnaethom ofyn i Annie Parry tybed a fuasai’n bosibl i’r plant fynychu yr ysgol Sul yma yn y Capel bach .

Croesawyd y ddau gan Annie ac hefyd yr athrawon Ysgol Sul a’r plant gyda breichiau agored a dyna gychwyn ar ein perthynas a theulu Ebeneser.

Dwi yn hollol gredu na fuasai Ebeneser yn sefyll yma heddiw fel Capel onibai am ymroddiad a llafur cariad y ddau yma, fe wnaethom popeth yn ei gallu i gadw y drws yn agored, erbyn hyn mi welwn oddeutu 30 yn mynychu ar fore Sul, ffrwyth llafur teulu “Annwylfa” .
Fe roddodd y ddau lwyfan i sawl darpar weinidog a phregethwyr lleyg ar gychwyn ei gyrfa i ymarfer eu crefft o bregethu yma o bulpud Ebeneser, sawl un yn dal i ddod yma ac yn ein `atgoffa o garedigrwydd y ddau.

Mi fuo’r ddau yn ddiaconiaid gwerthfawr ac amhrisiadwy yma am sawl blwyddyn ac yn fwy na pharod i gymeryd rhan yn y gwasanaethau ar fore Sul a hefyd gyda’r nos `radeg hynny , fel byddo`r angen.
Fe `roeddem fel aeloda yn edrych i fynny ar y diaconiaid, pobol fel Mr Ednyfed Howells, Mr Bob Jones, Mr William Hughes, Mr Gareth Thomas ac wrth gwrs Gwylfa ac Annie i gyd yn eistedd yn y “set fawr”.
Yn 1990 cafodd tri ohonnom wahoddiad i ymuno a nhw yn y “ set fawr” y tri oedd y diweddar annwyl David Ellis Jones, Eirlys Pritchard a minnau, ac fe `roedd Annie yn flaenllaw iawn yn y croeso ac yn edrych `mlaen i gyd weithio er budd aelodau a chyfeillion Ebeneser

Fe gawsom gyd weithio a chael dysgu beth oedd ein dyletswyddau i fod gan y diaconiaid mewn pwyllgorau a chyfarfodydd ar hyd y blynnyddoedd. a braint a phleser oedd hynny.
Laura
23/03/2023
Comment
And we were helped to work together – and we learnt our duties in many committees and meetings over the years by our fellow deacons – all of which was a privilege and a pleasure.
Annie was our secretary for many years , arranging preachers to lead our weekly services , a task she carried out with her quiet dignity. And at the end of the services, Annie could be seen reaching for her little book, arranging dates for the ministers and preachers to return to Ebeneser, and many of these arrangements would be for dates up to three years in advance.
Annie’s deteriorating health and her inability to attend services proved to be an immense loss to all of us at Ebeneser, and indeed Annie felt the loss also. She told me many times when I visited her at Plas Garnedd of how much she missed coming here, how much she missed our company. But she remained interested in knowing how many were attending services, and who had been preaching here. The two most important things in Annie and Gwylfa’s life together was their family, and also the family here within Ebeneser. There is no doubt that Annie and Gwylfa devoted their services to Jesus Christ, a devotion undertaken here at Ebeneser, affectionately known as our “Capel Bach”, situated in the upper village of Llanfairpwll.


On behalf of the officers , members and friends of Ebeneser, I offer my heartfelt thanks to them both for their commitment to all of us. You will all have seen the name Ebeneser written on the slate above the front door, followed with the capital letter “A” in brackets. Whilst the letter “A” denotes our denomination of the “Annibynnwyr”, this letter will now remind us always of Annie.
With our heartfelt thanks for having known you , dearest Annie, rest in God’s peace now.

Written by Mr Derec Owen tr. By Gwyneth
Laura
23/03/2023
Comment
Tribute for Auntie Annie by Derec Owen

My family and I first met Annie and Gwylfa Parry in the 1970’s. At that time, our family attended services at St Mary’s Church in the village , and when the Church decided it would no longer have a Sunday School, we approached Annie Parry and asked her if it would be possible for our children to attend the Sunday School here at Ebeneser. Our children were welcomed with open arms by Annie and the Sunday School teachers , and that was the beginning of our relationship with Ebeneser’s family.
I am truly convinced that Ebeneser would not be standing here today if it were not for Annie and Gwylfa’s sheer commitment and labour of love – they did everything within their abilities to ensure the door remained open . Today , we have approximately thirty members worshipping here on Sunday mornings, and this is due to the fruits of their labour here , and from within their family home of “Annwylfa.” They both provided an opportunity to many prospective ministers and lay preachers at the start of their careers to practice the art of preaching here, from Ebeneser’s pulpit. Many of them still lead our services today , and they remind us constantly of the kindness and support shown to them by Annie and Gwylfa.
They were both invaluable deacons here over many years, always prepared to take part in both morning and evening services. We as members held our deacons in high regard , people like Mr Ednyfed Howells, Mr Bob Jones, Mr William Hughes, Mr Gareth Thomas and of course, Annie and Gwylfa – all of them sat here in the “set fawr.”
In 1990 three of us were invited to join them in the “set fawr” - the dearly departed David Ellis Jones, Eirlys Pritchard and myself, and Annie took the lead in welcoming us and telling us how she looked forward to all of us working together for the benefit of all members and friends of Ebeneser.
Laura Pardoe
23/03/2023
Comment
Tribute photo for ANNIE PARRY
Annie Parry
Laura Pardoe
17/03/2023
Comment
Next
Holy FAMILY