William LloydPARRYGWILYM Dymuna Valerie, Dylan a Gwenda ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad gan deulu, ffrindiau a chymdogion, a'r rhoddion tuag at Hosbis yn y Cartref a dderbyniwyd er cof am gŵr, tad a thaid annwyl. Diolch i'r Parchedig Ganon Emlyn Williams am ei wasanaeth teilwng. Diolch yn arbennig i'r tîm gofal, yn enwedig staff Hosbis yn y Cartref am eu gofal tyner a'u caredigrwydd ac i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Diolch arbennig hefyd i'r Ymgymerwr R A Hughes a'i Fab, Llangefni am eu cymorth parod a'u trefniadau trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William