BrendaOWEN4 Medi 2026. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref Cynefin, Carmel, Llanerchymedd, yn 75 mlwydd oed. Annwyl briod Hughie John, mam dyner Dylan, Nia a Dyfed, nain hoff Llinos Haf, Sion Henry, Chloe, Liam, Jack, Edward ac Aria, a hen nain balch Alfie a Henry, chwaer hoff Eleanor, Margaret a'r diweddar Glyn a Wyn. Gweli'r ei cholli gan ei theulu a'i ffrindiau oll.
Angladd dydd Mawrth, 22 Medi. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gorffwys Preswylfa, Fali am 10.30 o'r gloch, ac yn dilyn yn Amlosgfa Bangor am 12.00 o'r gloch.
Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law Griffith Roberts a'i Fab, Preswylfa, Fali. Ffôn (01407) 740 940.
Keep me informed of updates