John ArwynOWEN99 Cefn y Gader, Morfa Bychan. Dymuna Lilian, Julian, Helen a James ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd atynt ar ôl colli gŵr, tad a thaid annwyl iawn. Diolch i Bethan Johnstone am arwain y gwasanaeth, Ian Wyn am ei deyrnged arbennig ac i Alan Jones am ei gyfraniad cerddorol gwych. Diolch i Gôr y Brythoniaid, aelodau'r Clwb Golff a ffrindiau lu a ddaeth i dalu'r gymwynas olaf i John. Diolch i David a staff Pritchard a Griffiths am y trefniadau trylwyr ac i Meic a staff y Clwb Golff am baratoi y lluniaeth. Diolch yn fawr am bob cyfraniad er cof tuag at Gymdeithas Strôc Gogledd Cymru.
Keep me informed of updates