Jean HefinaOWENAr ran y teulu caraf ddiolch i bawb am y caredigrwydd neilltuol a estynnwyd atom yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dilyn marwolaeth mam. Bu'r cannoedd ar gannoedd o gardiau a negeseuon a dderbyniasom o bell ac agos yn ffynhonnell cysur anfesuradwy. Yn benodol caraf ddiolch i Iwan Llewelyn, Marlyn Samuel a Margaret Ogunbanwo am eu cyfraniadau arbennig i'r gwasanaeth angladd, i Gwen Ty'n Twll am y lluniaeth hyfryd yn Neuadd Carmel, ac i'r tîm cyfan yn Roberts ac Owen a edrychodd ar ôl mam i mi gyda gofal a pharch tawel, diymhongar, ac a fuont yn gymaint o gefn i mi wrth drefnu'i hangladd. Diolch hefyd am y rhoddion hael iawn o dros £3000 a dderbyniwyd er cof am Jean Hefina, a aiff tuag at waith Cymdeithas y Deillion (Gwynedd). Buont hwythau'n gymorth mawr i mam dros y blynyddoedd diwethaf gan wneud ei chyflwr yn faich mymryn yn llai i'w ysgwyddo. Diolch. Iolo.
Keep me informed of updates