GwilymOWEN3a, Llys Uxbridge, Ffordd Caergybi, Bangor. Dymuna Eirlys ac Eleri fynegi eu diolch didwyllaf am bob caredigrwydd a chydymdeimlad a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth ddiweddar. Diolch o waelod calon am y teyrngedau amrywiol ar y radio, ar y teledu, ar y gwefannau cymdeithasol ac mewn print. Diolch arbennig am yr ymweliadau, am y galwadau ffôn, am y cardiau ac am y blodau ar dderbyniwyd. Bu a bydd bob gair yn gysur. Diolch i'r Parch Casi Jones am ei gwasanaeth teilwng ar ddydd yr angladd ac i'r organyddes Mrs. Enid Griffiths. Diolch i'r Parch Wil Huw Pritchard a'r Bonwr, John Walter Jones am eu teyrngedau twymgalon. Diolch am y rhoddion hael a charedig, er cof am Gwilym, tuag at Apêl Ymchwil Canser ac i Dewi o Ymgymerwyr H. O. Davies am ei drefniadau trylwyr a gofalus. Diolch eto o waelod calon i bawb.
Keep me informed of updates