Alun GlynOWEN -(Al Bonc) Dymuna Ceri, Cathy a theulu'r diweddar Alun Glyn Owen ddiolch yn ddiffuant i deulu, cymdogion, ffrindiau a'r gymuned gyfan am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth o golli Alun. Diolch o waelod calon am bob galwad ffôn, neges, a phob cerdyn a dderbyniwyd, roedd pob gair yn gynhaliaeth i'r teulu. Diolch arbennig i'r gwasanaethau brys ac i Heddlu Gogledd Cymru am eu hymdrechion di-flino mewn amgylchiadau anodd a chaled, hefyd i'r Parchedig Lloyd Jones am ei gefnogaeth ac am ei wasanaeth ddydd yr angladd, i Carol Rowlands am y blodau prydferth, ac i Roberts ac Owen, Pen-y-groes am eu gwasanaeth arbennig. Yn olaf diolch am y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Al tuag at Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen. Diolch yn fawr. Ceri, Cathy and the family of the late Alun Glyn Owen wish to express their sincere gratitude to family, neighbours, friends and to the community as a whole for every expression of kindness and sympathy received in their bereavement of losing Alun - each and every word meant so much to the family. Special thanks go to the emergency services and North Wales Police for their valiant efforts in very trying circumstances, to Reverend Lloyd Jones for his support and his service on the day of the funeral, to Carol Rowlands for the beautiful flowers, and to Roberts & Owen, Pen-y-groes for their wonderful service. Finally, thanks for the kind donations received in Al's memory towards Ogwen Valley Mountain Rescue Organisation. Thank you.
Keep me informed of updates