JonesMORFYDDJONES - Dymuna Gwynn Jones a theulu'r ddiweddar MORFYDD JONES, Bryn Ifan, (Ty'n Coed gynt) Capel Garmon ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad mewn gair a gweithred a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Priod, Mam a Mam yng nghyfraith a Nain annwyl ac arbennig iddynt. Diolch i'r Parchedig John D. Hughes am gymeryd gofal o'r Gwasanaeth, hefyd i'r Parchedigion Eifion G. Jones, ac Eryl Ll. Davies am eu rhan hwythau, i Gwyneth Jones, am gyfeilio ac i Ifor Thomas am arwain y canu. Diolch i Arwyn Roberts, Dinbych am y trefinadau urddasol ac i Eleri Roberts, Popty Pen Uchaf am drefnu'r lluniaeth. Gwerthfawrogir y rhoddion hael tuag at Gronfa'r Ambiwlans Awyr sydd bellach yn £1,000.
Keep me informed of updates