GwynforJONESDymuna Elma a Dewi, Mair a theulu a ffrindiau Gwynfor ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Diolch am yr holl gardiau a galwadau ffôn, ac am y rhoddion hael a dderbyniwyd i'w rhannu rhwng y gymdeithas Spina Bifida a Hydrocephalus ac Ymchwil Alzheimer. Diolch i'r Parchedig Ddr. Elwyn Richards am baratoi ac arwain y gwasanaeth urddasol yn yr amlosgfa a diolch arbennig iddo am ei ofal o'r teulu mewn amser trist. Diolch arbennig i'r ymgymerwyr Meinir a Rhys o gwmni Dylan Griffith am eu gofal, eu caredigrwydd a'i gwaith trylwyr ac urddasol.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwynfor