Huw GethinJONESDymuna Teleri, Dafydd ag Ellen, Rhys a Catrin a'r teulu ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a amlygwyd tuag atynt yn eu profedigaeth ddisymwth. Diolch o waelod calon am y llu o alwadau ffôn, cardiau, llythyrau a'r rhoddion hael o £5,910 a gasglwyd tuag at Tŷ Gobaith. Diolch yn fawr i bawb yng Nghlwb Rygbi, Llangefni a'r llu o alarwyr oedd ar y ffordd a ddaeth i dalu'r gymwynas olaf. Diolch i'r Parchedig Carwyn Siddall am ei wasanaeth urddasol. Diolch arbennig i'r ymgymerwyr R A Hughes a'i Fab, Llangefni am eu trefniadau trylwyr a pharchus ynghyd a chymhorthi Rondo Media i wneud yn siwr fod y gwasanaeth yn cael ei ddarlledu ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwerthfawrogwn y cyfan yn fawr.
Keep me informed of updates