Michael JohnJONES10/9/1950 8/4/2020 Caecrwth, Llanfachreth, Dolgellau. Dymuna teulu'r diweddar Michael John ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth o golli un oedd mor annwyl ganddynt. Hefyd diolch i'r Parch Tim Webb am ei wasanaeth teimladwy ar lan y bedd ym mynwent Eglwys Machreth Sant ar Ddydd Mercher , 15 o Ebrill ac i, er yn absenol oherwydd y cyfyngiadau, Tad Deiniol a'r Parch Euron Hughes am eu cefnogaeth dros gyfnod salwch Michael. Diolch i'r holl ddaeth i ymyl y ffordd yn Nolgellau a Llanfachreth i ddangos eu parch am y tro olaf i M.J. wrth iddo wneud ei siwrne olaf i Lanfachreth ac yn arbennig i Philip Jones ( cefnder ) a Carwyn a Ceryl Roberts ( cyfeillion ) am eu gwasanaeth ar y diwrnod. Diolch i'r meddygon a holl staff Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Dolgellau a'r nyrsus cymunedol am eu gofal diflino ohono dros y cyfnod hir o'i salwch. Diolch i bawb a gyfranodd at y gronfa er cof am Michael a llwyddwyd i gasglu dros £1,700 at Ymchwil Cancr y DU. Diolch diffuant iawn i Ben Thomas, Aftercare Funeral Services, Tywyn am ei drefniadau trylwyr a theimladwy iawn.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Michael