Hefin GoronwyJONESJONES - HEFIN GORONWY, Hydref 12, 2019. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd Bangor o Stad Glanffynnon, Llanrug yn 73 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Menna; brawd bach hoffus Megan a'r diweddar Mair; brawd-yng-nghyfraith hoff Ellen a Sian; cefnder ac ewythr caredig. Colled drist i'w deulu, ffrindiau a'i gydweithwyr yn Ysbyty Gwynedd. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Sadwrn, Hydref 19, 2019 am 11.00 y bore. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at Wardiau Ogwen a Tryfan, a Seindorf Arian Deiniolen. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waun, Penisarwaen. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates