EvanJONESDymuna teulu'r ddiweddar Evan Jones, Foel Ganol, Pontllyfni, ddiolch o galon i bawb am y caredigrwydd a chydymdeimlad a dderbynwyd yn ystod eu colled. Diolch yn arbennig i'r Parch Geraint G. Roberts, Porthaethwy am ei wasanaeth ar ddydd yr angladd ac hefyd i'r organyddes Mrs Ann Williams (Arddol, Pontllyfni). Diolch hefyd i Huw J. Jones, Glanrafon, Pontllyfni am ei garedigrwydd a trefniadaeth trylwyr. Diolch i holl staff Plas Gwilym, Penygroes a meddygon a nyrsus ward Prysor, Ysbyty Gwynedd am eu gofal arbennig. Derbyniwyd yn ddiolchgar £475 mewn rhoddion er cof am Evan Jones tuag at mwynderau trigolion Plas Gwilym, Penygroes.
Keep me informed of updates