Arthur NevilleJONESYn dawel ar ddydd Iau Ionawr 4ydd 2018 yng ngwmni ei deulu yn 78 mlwydd oed hunodd Neville, Waun Uchaf, Troed-y-rhiw, Cribyn. Priod ffyddlon y diweddar Eirlys, tad cariadus Lynwen, Llinos, Michael, Mandy a'r diweddar Anette, tad yng nghyfraith parchus Dai, Michael, Michelle a Gwynne, tadcu a hen dadcu hoffus. Gwasanaeth angladdol preifat yng Nghapel Y Fadfa, Bwlchyfadfa, Talgarreg ddydd Iau Ionawr 11eg 2018 am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof os dymunir tuag at Meddygfa Taliesin, Llanbedr Pont Steffan trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ff?n 01545 590254
Keep me informed of updates