Morris GriffithJONESDymuna Paul, Christine, Kevin, Carol a Miriam, teulu y diweddar Morris Griffith Jones, 89 Tre Gof, Caernarfon, ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd iddynt yn ystod eu profedigaeth o golli tad, taid, hen daid a ffrind annwyl. Diolch i'r Parchedig Gwynfor Williams a'r Parchedig Marcus Robinson am eu gwasanaeth ar ddiwrnod yr angladd, ac i Dr. W. Munro am ei wasanaeth wrth yr organ. Diolch hefyd i Dylan Griffiths, Tros y Waen, Penisarwaun yr ymgymerwr am y trefniadau trylwyr a theimladwy. Diolch am yr ymweliadau, cardiau a'r galwadau ffon a'r rhoddion ariannol er cof, a drosglwyddir rhwng Ysbyty Eryri ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Keep me informed of updates