Sarah EleanorJONESNel - Bannau Duon Yn dawel yng nghwmni ei theulu hunodd Nel, Derlwyn, Talgarreg ar fore Mawrth, Hydref 17eg 2017 yn 88 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Dai, mam annwyl a chariadus Hywel, Ann ac Eleri, mam yng nghyfraith barchus Heather, Dai a Peter, mamgu dyner a chefnogol Si?n-Elin a Paul, Rhian a Gareth, Ffion a Rhodri, Lona, Elis ac Alice, hen famgu hoffus Aron, Cian, Alaw a Rici. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Dewi Sant, Talgarreg dydd Sadwrn Hydref 21ain 2017 am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, cyfraniadau er cof os dymunir tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon - trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen. Talgarreg, Llandysul, Ceredigion. SA44 4XB Ff?n 01545 590254
Keep me informed of updates