MaryJONESJONES - Dymuna Mary a Carol a theulu'r diweddar OWEN JOHN JONES, 1 Maes Machraeth, Llanfachraeth ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli gwr, tad, tad yng nghyfraith, taid a hen daid annwyl iawn. Diolch hefyd am y rhoddion hael a dderbynwyd i gofio amdano tuag at Eglwys Llanfigael. Diolch arbennig i'r Parchedig Prifathro John Rice Rowlands am arwain gwasanaeth teimladwy iawn. Diolch i'r organyddes Mrs Brenda Williams, diolch i staff Ward Tryfan, Ysbyty Gwynedd am eu gofal tyner, diolch i Mr Gareth Owen o Griffiths Roberts a'i Fab, Fali am drefniadau trylwyr a charedig.
Keep me informed of updates