IforJONESJONES Dymuna teulu'r diweddar IFOR GLYN JONES, Gwendraeth, Caernarfon fynegi eu diolchgarwch diffuant am bob arwydd o gydymdeimlad yn dilyn eu profedigaeth o golli priod, tad a thaid hoff. Diolchir hefyd am bob rhodd ariannol dderbyniwyd tuag at Ward Gogarth, Ysbyty Gwynedd, i'r Parchedigion R.Donaldson, Trefor Jones, Gwenda Richards, Harri Parri a'r organydd Mr.A.Wilding am eu gwasanaeth. Diolch arbennig i'r Ymgymerwyr Roberts ac Owen, Penygroes am eu gwaith trylwyr, bonheddig a phroffesiynol;- gwerthfawrogir y cyfan yn fawr iawn, diolch o galon.
Keep me informed of updates