MairJONESJONES - Dymuna Mair, Arthur, Olwen a theulu'r diweddar ROWLAND JONES, Trewaun, Trefor, Caergybi ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profediageth o golli priod, tad, tad yng nghyfraith a thaid caredig. Dymunwn ddiolch i Feddygfa Glan Menai, Llanerchymedd a Ward Glaslyn, Ysbyty Gwynedd am eu gofal tyner. Diolch arbennig i Canon J F W Jones, Parchedig Emlyn C Williams, Mr Gareth Owen a Mr Gwilym Jones am eu gwasanaeth ddydd yr angladd i Mrs Rhiannon Lewis yr organyddes, Mr Wyn Jones a Mr Geraint Lewis am bob cymorth. Diolch hefyd am y rhoddion hael o £1300 dderbyniwyd tuag at Gronfa Mynwent Eglwys Sant Ffinan. Diolch arbennig i Mr Gareth Owen yr Ymgymerwr (Griffith Roberts a'i Fab), Preswylfa, Fali, am ei drefniadau trylwyr ac urddasol. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates