JANE WYN OWENOWEN - Dymuna Einir, Sian, Carwyn a theulu'r diweddar JANE WYN OWEN, Aber Ogwen, Tal-y-bont, Bangor ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Mam, Mam yng nghyfraith, Nain a Chwaer annwyl. Diolch i'r parchedig Eric Jones a'r gweinidogion eraill am eu gwasanaeth arbennig, i Gapel Aber, ac i bawb fu'n gweini yng Nghlwb Rygbi Bangor, ac i'r cigydd G. Williams am y lluniaeth ardderchog. Gwerthfawrogwyd yr holl gyfraniadau hael o £1,330 a gafwyd tuag at wasanaethau ac ymchwil y cyflwr Bipolar.
Keep me informed of updates