JoanHUMPHREYSHUMPHREYS - JOAN, Hydref 7, 2020. Yn dawel yn Ysbyty Eryri, Caernarfon o Noddfa, Llanrug. Gweddw y diweddar Jim Maxwell a'r diweddar Ddr. David John Humphreys; chwaer dyner Mair a Tom Alun; modryb a hen fodryb annwyl. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat, gan ddilyn y cyfarwyddiadau presennol, ddydd Mercher, Hydref 21, 2020 yng Nghapel y Rhos, Llanrug am 11.00 y bore a rhoddir i orffwys ym Mynwent Cymuned Llanrug. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig er cof tuag at gronfa Cyfeillion Eryri. Ymholiadau pellach i (Meinir) Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdu, Tros y Waen, Penisarwaen. Ffôn 01286 871833.
Keep me informed of updates