SelwynHUGHESMai 17, 2022 Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd Bangor o 2 Gwêl Fynydd, Llanrug yn 88 mlwydd oed. Priod cariadus Ellen; tad a llys-dad caredig Graham, David Charles, David, Claire a Martin; tad-yng-nghyfraith hoffus; taid annwyl Elen Mai, Lois, Guto ac Osian; brawd-yng-nghyfraith ac ewythr hoff. Gwelir ei golli yn fawr gan ei deulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Gwener, Mai 27, 2022. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Padarn, Llanberis am 11.00 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Llanrug. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Selwyn tuag at Ymchwil Canser. Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Phone 01286 871833
Keep me informed of updates