FrancisHUGHESDymuna Liz, Nia, Bethan a theulu agosaf y diweddar Francis Hughes, 17 Dolafon, Cwm y Glo, ddiolch o galon i bawb a fu mor garedig tuag ato yn ystod ei waeledd. Hefyd diolch am y cardiau, negesuon, galwadau a'r rhoddion a dderbynwyd ar ôl eu colled enfawr. Diolcha'r teulu hefyd am y rhoddion hael at Feddygfa Waunfawr ac i'r Meddygon a Staff am eu gofal, nid yn unig am Francis ond amdanynt hwythau hefyd. Maent yn teimlo mor lwcus ohonynt. Diolchir hefyd i staff Ward Tryfan, Ysbyty Gwynedd am eu gofal ac hefyd i staff Ward Peblig, Ysbyty Eryri, ac i bawb a ddaeth i dalu y deyrnged olaf i Franz yn Eglwys Sant Mihangel, Llanrug ac ym Mynwent y Plwyf- hoffai'r teulu ddiolch i chwi gyd am ddod. Maent yn sicr y byddai wedi synnu. Yn olaf, mae diolch yn ddiffuant i Iolo a Staff Roberts and Owen, Penygroes am eu gofal tyner o Francis, Liz, Nia a Bethan. Roedd eu gwasanaeth yn arbennig.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Francis