Eryl WynGRIFFITHSDymuna Dafydd, Gareth a Manon a'r teulu ddiolch i bawb am bob gair o gydymdeimlad a dderbyniwyd trwy gardiau, galwadau ffôn ac ymweliadau yn ystod eu profedigaeth o golli mam a nain annwyl. Mawr ein diolch i deulu, cymdogion a ffrindiau am fod mor gefnogol ac i Feddygon a holl staff Meddygfa Coed y Glyn a gofalwyr Carelink am eu gofal dros y blynyddoedd. Diolch i'r Parchedig Huw Pritchard ac i'r Barchedig Nerys Griffiths am eu gwasaneth ddydd yr angladd, ac i Vaughan Hughes am y deyrnged. Diolch hefyd am y rhoddion hael o £1100 tuag at Ambiwlans Awyr Cymru ac i Katy o Jones Brothers Cyfarwyddwyr Angladdau am fod mor drylwyr gyda'r trefniadau. Diolch yn fawr.
Keep me informed of updates