ElwynFOULKESDymuna Catherine, Karen, John, David a theulu y diweddar Elwyn Foulkes, 3 Bryn Terrace, Cwm-y-Glo ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Priod, Tad, Taid, Cefnder, Ewythr, Brawd-yng-nghyfraith, Ffrind, a Chyd-weithiwr. Llawer o ddiolch i Ward Glyder, Ysbyty Gwynedd am y gofal tyner a gafodd Elwyn. Diolch am y llu cardiau, galwadau ff?n, ymweliadau, blodau a dderbynwyd ac hefyd am y rhoddion hael tuag at Meddygfa Llanberis. Diolch i'r Canon Robert Townsend am ei gymorth a'i wasanaeth yn yr eglwys ac ar l?n y bedd; i Mr William Munro am ei waith wrth yr organ, ac i Dafydd Ellis am ei deyrnged. Diolch hefyd i Neil ac Anthony, Heights Llanberis, am y lluniaeth. Diolch yn arbennig i Dylan a Meinir Griffith, Ymgymerwyr, Tros y Waen, Penisarwaen am eu trefniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates