Carole WynneEVANSEVANS - CAROLE WYNNE, Chwefror 16, 2020. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o 15 Dol Afon, Cwm-y-glo yn 76 mlwydd oed. Priod annwyl Bobby; mam gariadus Dylan a'i gymar Bethan, a'r diweddar Bryn; nain garedig Dion a Tomos; chwaer hoff Selwyn a'r diweddar Melvyn a Haydn; chwaer-yng-nghyfraith, modryb a ffrind arbennig. Colled drist i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd ddydd Mawrth, Chwefror 25, 2020. Gwasanaeth preifat ar yr aelwyd gan ddilyn yn gyhoeddus ar lan y bedd ym Mynwent Cymuned Llanrug am oddeutu 12.30 o'r gloch. Derbynnir blodau. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates