AgnesEVANSEVANS - Dymuna Agnes, Ann, Alun ac Eluned teulu'r diweddar Mr.Eurwyn Evans, Tyn Pan, Brynteg ddiolch i bawb am pob arwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth. Hoffwn ddiolch i Gartref Glan Rhos, Brynsiencyn am y gofal a gafodd ac hefyd i Gymdeithas "Motor Neurone" Ynys Mon am eu cymorth a charedigrwydd. Diolch yn fawr i'r Parchedig H.J Hughes am ei wasanaeth ddiwrnod yr angladd, i Mr.R.H. Edwards am ei deyrnged ac i Mrs.Margaret.Roberts yr organyddes. Gwerthfawrogi y rhoddion hael o £1378.50 a dderbyniwyd tuag at "Motor Neurone Disease". Diolchwn hefyd i'r Ymgymerwyr R.Hughes a'i Fab Llagefni am eu trefniadau ardderchog.
Keep me informed of updates