AlanDAVIESDAVIES - ALAN (Tosh), Awst 9, 2020. Yn annisgwyl gartref, 89 Pentre Helen, Deiniolen yn 63 mlwydd oed. Mab annwyl Griff a'r diweddar Valmai; brawd a brawd-yng-nghyfraith hoff Carol a Terry, yncl hoffus Donna, Lorraine a'u teuluoedd; nai a chefnder hoffus. Colled drist i'w deulu a'i ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Bangor, gan ddilyn y cyfyngiadau presennol, ddydd Gwener, Awst 21, 2020 am 11.00 y bore. Blodau'r teulu yn unig. Ymholiadau pellach i (Meinir) Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen. Ffon 01286 871833.
Keep me informed of updates