Ronald FrancisDAVIESDAVIES - RONALD FRANCIS (Ron), Tachwedd 1af, 2019. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd Bangor o Tegfryn, 20 Cwm Silyn, Hendre Park, Caernarfon yn 78 mlwydd oed. Priod cariadus Eirlys; tad a thad-yng-nghyfraith gorau'n y byd i Amanda a Steve; taid gofalus Aaron ac Alaw; mab annwyl y diweddar Alice Jane; brawd arbennig Gwladys a'r ddiweddar Margaret a Dilys; brawd-yng-nghyfraith hoff Henry, Menna, Beryl a Peter, Glyn a Nancy; ewythr hoffus a ffrind triw i lawer. Colled enfawr am ŵr bonheddig a chymwynasgar. Angladd ddydd Mawrth, Tachwedd 12, 2019. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys St. Peblig, Llanbeblig am 11.30 y bore a rhoddir i orffwys ym Mynwent Newydd Llanbeblig. Blodau'r teulu agosaf yn unig ond derbynnir rhoddion os dymunir yn garedig er cof tuag at Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau pellach i Meinir o Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates