Rachel Mary EurwenDAVIES(Eurwen Blaentir) Yn dawel ar fore Llun Chwefror 6, 2017 yn Ysbyty Glangwili yn 83 mlwydd oed hunodd Eurwen, Blaenwern, Cribyn; priod hoff y diweddar Jack, mam gariadus Meinir a'r diweddar Olwen, mam yng nghyfraith barchus Ian a Mike, mamgu hoffus Rhian, Rhodri a Ffion a chwaer annwyl Dewi. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Undodaidd Cribyn ddydd Sadwrn Chwefror 11 am 1 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent Capel y Bryn, Cwrtnewydd. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion os dymunir er cof am Eurwen tuag at Ymchwil Canser Cymru trwy law, Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ffon. 01545 590254.
Keep me informed of updates