Thomas EmrysPRICEYn dawel yn Ysbyty Bronglais ar fore Sul Ebrill 2il 2023 yn 90 mlwydd oed hunodd Tommy, Gelliwrol, Cwmann. Priod ffyddlon y diweddar Irene, tad cariadus a chefnogol Eira, Iona a Shân, tad yng nghyfraith parchus Hugh, Cenfil a'r diweddar Andrew, tadcu balch a charedig Morgan. Gwasanaeth angladdol preifat yng Nghapel Brynhafod, Gorsgoch dydd Sadwrn Ebrill 8fed 2023 am 1 o'r gloch Dim blodau. Derbynnir rhoddion os dymunir er cof am Tommy tuag at Tir Dewi, trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB Ffon 01545 590254
Keep me informed of updates