Sarah LouisaJONESYn dawel yng Nghartref Preswyl Hafod, Aberteifi ar ddydd Iau Rhagfyr 29, 2016 yn 95 mlwydd oed hunodd Sarah, Bro Hafan, Cross Inn; priod ffyddlon y diweddar Ieuan, cyfnither a modryb hoffus ac yn ffrind annwyl. Gwasanaeth angladdol i'r teulu a ffrindiau yn Eglwys Y Drindod, Cross Inn, ger Cei Newydd ar ddydd Sadwrn Ionawr 7, 2017 am 1 o'r gloch ac i ddilyn rhoddir i orffwys ym mynwent y dref Cei Newydd. Dim blodau. Derbynnir rhoddion os dymunir tuag at Meddygfa Cei Newydd, trwy law - Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ff?n. 01545 590254.
Keep me informed of updates