John DanielEVANSYn dawel yn Ysbyty Glangwili ar ddydd Mawrth 16eg o Fai 2023 yn 64 mlwydd oed hunodd Dannie, Cribor Fach, Pontsian. Priod annwyl Delyth, tad cariadus Hedydd, Dorian a Dwynwen, tad yng nghyfraith hoffus Kate, tadcu balch Alwyn, mab yng nghyfraith parchus Derek, brawd tyner Mair ac Elsie a brawd yng nghyfraith cefnogol John a David. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Pantydefaid, Prengwyn ddydd Sadwrn 27ain o Fai 2023 am 12 o'r gloch. Blodau teulu agos yn unig. Ymholiadau pellach i Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul, SA44 4XB. Ffon 01545 590254
Keep me informed of updates